Gallai bron i draean o fusnesau yng ngwledydd Prydain gael eu gorfodi i symud dramor oherwydd Brexit, yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr (CBI).

Mae arolwg gan y CBI fu’n holi 1,200 o bobl fusnes wedi darganfod bod 16% eisoes wedi gwneud trefniadau i adleoli tra bod 13% yn ystyried gwneud hynny o ddifrif.

Mae mwy o gwmnïau mawr eisoes wedi symud eu busnesau ond mae cwmnïau llai bron dwywaith yn fwy tebygol i ystyried gwneud hynny, yn ôl yr arolwg.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol dros dro’r CBI, Edwin Morgan, bod yr arolwg yn datgelu “rhybuddion pryderus”.

Mae’n rhybuddio am y peryglon yn sgil Brexit heb gytundeb.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod nhw eisiau “diogelu swyddi a’r economi yn ogystal â rhoi sicrwydd i fusnesau ac unigolion wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Y ffordd orau i wneud hyn yw gadael gyda chytundeb, a dyna beth yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd.”