Mae disgwyl i ddyn 40 oed ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe heddiw (dydd Gwener, Chwefror 1) wedi’i gyhuddo o geisio lladd dynes oedrannus ym Mhontarddulais ddechrau’r mis.
Cafodd Jeffrey Paul Lloyd ei arestio yn ei gartref yn y dref yn dilyn y digwyddiad ar Heol Garnswllt ar Ionawr 9. Yn ogystal â wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio, mae hefyd wedi’i gyhuddo o ladrata.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae’r ddynes 72 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ond eu bod yn dal i apelio am wybodaeth am rai eitemau a gafodd eu dwyn ac sy’n parhau ar goll.
Mae’r eitemau hynny yn cynnwys pwrs lledr porffor a gwyrdd sy’n eiddo i’r ddioddefwraig.