Mae modd i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru hawlio iawndal os yw’r trên yn cyrraedd ei gyrchfan 15 munud yn hwyr.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae cwsmeriaid yn gallu hawlio 25% o gost tocyn sengl am oediadau o rhwng 15 a 29, waeth beth a fo’r rheswm am hynny.
Bydd pob ad-daliad yn cael ei wneud naill ai trwy drosglwyddiad uniongyrchol i’r banc, Paypal neu rodd elusennol i Railway Children, sef elusen sy’n brwydro dros blant y stryd.
Bydd pob rhodd i’r elusen yn derbyn yr un swm gan Drafnidiaeth Cymru, meddai’r cwmni ymhellach.
“Rhoi’r cwsmer yn gyntaf”
“”Mae cyflwyno’r cynllun iawndal hwn yn tynnu sylw pellach at y ffordd yr ydym yn rhoi’r cwsmer yn gyntaf yn ein cynlluniau i weddnewid trafnidiaeth yng Nghymru,” meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru.
“Rydym eisiau darparu gwasanaeth trenau sydd gyda’r gorau yn y byd ac sy’n gweithio i’r teithiwr ac nid yw hwn ond un cam sy’n cael ei gymryd gennym i helpu i sicrhau hynny.”