Mae o leiaf 500 o ysgolion yn ne a chanolbarth Cymru ynghau bore ma (dydd Gwener, 1 Chwefror) oherwydd eira trwchus dros nos.

Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion sydd ynghau yn ardal Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerdydd ond mae ysgolion hefyd ynghau yng Nghaerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae sawl ffordd wedi cau yn y Cymoedd a rhybudd am amodau gyrru gwael ar ffyrdd eraill yn y de a’r canolbarth.

Ym Mhowys roedd hyd at 10cm o eira wedi cyrraedd rhannau o’r sir.

Mae 11 o gartrefi yn Llandrindod heb gyflenwad trydan.

Ym Maes Awyr Caerdydd a Bryste mae rhai teithiau awyr wedi cael eu canslo neu wedi eu gohirio. Maen nhw’n cynghori teithwyr i checio’r wybodaeth ddiweddara’ ar eu gwefan neu i gysylltu a’u cwmni teithio am ragor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi rhybuddio y bydd oedi i wasanaethau tren mewn rhai llefydd bore ma.

Mae rhybudd melyn am eira ac ia mewn grym tan tua 1yp pnawn ma.

Cernyw

Yng Nghernyw mae trafferthion mawr ar yr A30 ger Temple a bu tua 100 o geir yn sownd yn yr eira dros nos. Bu’n rhaid i nifer o bobl aros yn nhafarn y Jamaica Inn ar Rostir Bodmin dros nos.