Mae dwy wraig wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth gweithiwr cymunedol yn Belffast.

Bu farw Ian Ogle, tad 45 oed, wedi ymosodiad cïaidd arno yng nghanol y ddinas nos Sul.

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn chwilio am dystiolaeth mewn parc cyfagos ers hynny, gan ddefnyddio offer arbenigol i chwilio’r pridd.

Mae ditectifs o Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad.

Fe gafodd y gwragedd, 35 a 36 oed, eu dwyn i’r ddalfa neithiwr (nos Lun, Ionawr 28).