Mae archfarchnad Tesco wedi cadarnhau bod 9,000 o swyddi yn y fantol wrth iddyn nhw geisio “symleiddio” y busnes.

Er hynny mae’r archfarchnad yn disgwyl i bron hanner o’r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi gael eu cyflogi gan ran arall o’r cwmni.

Mae disgwyl i nifer y cownteri cig gael ei dorri, gyda 90 o siopau yn colli’r gwasanaeth yn gyfan gwbwl.

Ac fe fydd y newidiadau’n effeithio cogyddion yn ystafelloedd staff hefyd – gyda’r ceginau yn cael eu trawsnewid i geginau hunan wasanaeth.

Bydd newidiadau ychwanegol yn cynnwys llai o oriau i reoli stoc a marchnata a bydd gweithwyr yn y prif swyddfeydd hefyd yn wynebu toriadau wrth i Tesco symud i “strwythur symlach a phwysicach.”

Maen nhw wedi cadarnhau na fydd unrhyw effaith ar y gwasanaeth pobi bara.