Mae gyrwyr heddiw dros ddwy waith yn fwy tebygol o gael eu ceir wedi’u difrodi gan dyllau yn y lôn na gyrwyr yn 2006.

Fe dderbyniodd cwmni yswiriant yr RAC 1,714 o alwadau rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr y llynedd gan yrwyr a oedd â’u ceir wedi torri i lawr oherwydd problemau a achoswyd gan dyllau ar y ffordd.

Yn ôl y cwmni, mae’r galwadau hyn yn cynrychioli 0.8% o’r holl alwadau i’r RAC – y lefel isaf ar gyfer tri mis olaf y flwyddyn ers 2013.

Mae difrod gan dyllau yn y lôn yn fwy cyffredin heddiw na 13 mlynedd yn ôl.

Mae ffigyrau gan Gynghrair y Diwydiant Asffalt (AIA) yn dangos bod un allan o bob pum ffordd yng Nghymru a Lloegr mewn cyflwr gwael.