Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o ladd paffiwr 21 oed a gafodd ei saethu i farwolaeth yn Doncaster yr wythnos ddiwethaf.
Fe gafodd Tom Bell ei ladd yn nhafarn The Maple Tree yn Balby ddydd Iau, Ionawr 17.
Mae disgwyl i Joseph Bennia, 28, o Balby; a Scott Gocoul, 29, o Bilton, Swydd Efrog; ymddangos gerbron Llys Ynadon Doncaster heddiw (dydd Iau, Ionawr 24).