Mae cyn-weinidog Brexit llywodraeth Prydain, David Davis, wedi datgan y bydd yn ennill £60,000 y flwyddyn am 20 awr o waith yn cynghori cwmni JCB.

Fe fydd yn ennill £3,000 yr awr am y swydd y mae newydd ei hychwanegu at y gofrestr yn San Steffan o ddiddordebau ariannol Aelodau Seneddol.

Mae’n dweud iddo ofyn barn y pwyllgor sy’n cynghori ar apwyntiadau (ACoBA) cyn derbyn y gwaith.

Mae ei gofnod ar y gofrestr yn nodi y bydd yn y swydd am flwyddyn o Ionawr 1, 2019 tan Ionawr 1, 2020; y bydd yn derbyn £60,000 y flwyddyn; ac yn gwneud tua 20 awr o waith.

Mae cadeirydd JCB, yr Arglwydd Bamford, yn un o noddwyr y blaid Geidwadol ac yn gefnogwr y garfan ‘Leave’ sydd am weld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae David Davis hefyd wedi nodi ei fod bellach yn aelod o fwrdd cwmni cynhyrchu Mansfelder Kupfer Und Messing GMBH ers mis Rhagfyr 2018. Mae’n apwyntiad chwe mis, ac fe fydd yn derbyn £36,085 am y gwaith hwnnw.

Mae’n ennill cyflog blynyddol o £77,379 yn Aelod Seneddol.