Mae heddlu Gogledd Iwerddon wedi dod o hyd i ddyfais amheus arall yn ninas Derry, yn dilyn ffrwydrad yno dros y penwythnos.

Mewn datganiad, mae heddlu’r rhanbarth yn dweud iddyn nhw gynnal archwiliad yn dilyn ymosodiad nos Sadwrn (Ionawr 19) yn ardal Brandywell.

“O ganlyniad, fe ddaeth swyddogion o hyd i ddyfais amheus,” medden nhw.

Roedd hyn ychydig oriau ar i’r awdurdodau gyfarfod i drafod sut i ddod â’r ddinas yn ôl i drefn, yn dilyn dyddiau o banig ac anniddigrwydd.

Mae adeiladwyr, ynghyd â gwasanaethau post a thrafnidiaeth, wedi cael eu rhwystro rhag mynd i rai ardaloedd yn Derry ers bygythiadau eraill dydd Llun.

Roedd Aelod Seneddol Foyle, Elisha McCallion, newydd gyhoeddi yn hwyr bnawn ddoe (dydd Mercher, Ionawr 23) fod gwasanaethau wedi ail-ddechrau, pan ddaeth yr heddlu o hyd i’r ddyfais ddiweddaraf.