Mae dyn wedi marw wedi iddo gael ei daro’n wael mewn swyddfa’r heddlu yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Fe gafodd y dyn 55 oed ei ddwyn i’r ddalfa yn swyddfa’r post Southwick, Sunderland, tua 10yh ddydd Sul (Ionawr 13) ar ôl cael ei arestio yn y ddinas.
Nos Lun, fe gafodd ei daro’n wael a derbyn triniaeth gan staff y swyddfa’r heddlu, meddai Heddlu Northumbria. Yn ôl y llu, bu farw’n sydyn yn yr ysbyty nos Fawrth (Ionawr 15).
“Mae’r farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at yr IOPC (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu),” meddai llefarydd, ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.