Mae anhrefn Brexit yn gwneud achos yr Alban am annibyniaeth yn “gynyddol glir,” meddai prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.
Dywed arweinydd yr SNP, sydd ar ei ffordd i Lundain heddiw (dydd Mercher, Ionawr 16) cyn y bleidlais o ddiffyg hyder yn y prif weinidog, ei bod hi’n “amlwg” nad oes gan Theresa May “unrhyw syniad beth i’w wneud nesaf”.
Cafodd Theresa May ei threchu mewn pleidlais hanesyddol yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (dydd Mawrth, Ionawr 15) gydag Aelodau Seneddol yn gwrthod ei chytundeb o fwyafrif o 230.
Er mai’r disgwyl yw y bydd Theresa May yn goroesi’r bleidlais ddihyder, mae beth sydd yn digwydd nesaf yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd yn fwy aneglur.
Mae Nicola Sturgeon yn galw am ail refferendwm tra mae Llafur yn ffafrio etholiad cyffredinol.
Mae wedi siarad gyda Theresa May yn dilyn y canlyniad neithiwr, cyn datgan at blatfform Twitter “nad yw’n gwbwl glir ei bod hi’n agored i unrhyw newid meddwl sylfaenol yn ei sgyrsiau trawsbleidiol”.
“Y peth lleiaf mae’n rhaid iddi ei wneud nawr yw ceisio ymestyn Erthygl 50 a stopio’r cloc,” meddai.