Fe fydd Bil Awtistiaeth Cymru yn cael ei drafod yn y Cynulliad heddiw (dydd Mercher, Ionawr 16).
Daw’r newyddion ar ôl i Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gael ei ddewis ar hap i drafod y mesur sydd ar hyn o bryd yn cael ei wrthwynebu gan Lafur, er fod yr holl bleidiau eraill yn ei gefnogi.
Pwrpas y mesur, sydd wedi’i greu ar y cyd â’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, yw rhoi’r hawl i bobol awtistig yng Nghymru gael mynediad amserol i wasanaethau sy’n gallu diwallu eu hanghenion a gwella dealltwriaeth o’r cyflwr.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol, addysg, mynediad i dai a gwaith. Dim ond 10% o bobol awtistig sydd mewn gwaith ar hyn o bryd.
Mae’r fath ddeddfwriaeth yn bod yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ers 2009, ac mae eisoes wedi llwyddo i wella bywydau pobol yn Lloegr.
Nodau’r ddeddfwriaeth
Nod Bil Awtistiaeth Cymru yw cyflwyno strategaeth i ddiwallu anghenion plant a phobol ifanc ag awtistiaeth yng Nghymru, sicrhau diagnosis yn y gymuned, pwysleisio pwysigrwydd dealltwriaeth o awtistiaeth er mwyn rhoi gofal, casglu data priodol am awtistiaeth ac adolygu’r strategaeth yn gyson.
“Mae’r sêl bendith trawsbleidiol gafodd fy mesur yn dangos y gefnogaeth eang, gref sydd i’r diwygiadau drwy’r wlad yn gyffredinol,” meddai Paul Davies.
“Mae’r ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru’n gyndyn o fabwysiadu’r mesurau arwyddocaol a phoblogaidd hyn a gafodd eu creu ochr yn ochr ag arbenigwyr a rhanddeiliaid yn dangos eu hagweddau a’u systemau sydd wedi dyddio.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig am arwain y ffordd at gryfhau hawliau’r gymuned awtistig yng Nghymru, gan ddatblygu llwybrau clir i ddiagnosis, a helpu staff sy’n cefnogi pobol ag awtistiaeth i gael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw.
“Rwy’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i ailystyried ei safbwynt a chaniatáu i’w haelodau gefnogaeth ddeddfwriaeth hanfodol hon.”