Mae dyn o wledydd Prydain ymhlith y 14 o bobol a gafodd eu lladd yn ystod ymosodiad ar westy moethus ym mhrifddinas Cenia.
Fe ddechreuodd dynion arfog saethu eu ffordd i mewn i’r DusitD2 yn Nairobi bnawn Mawrth (Ionawr 15).
Mewn fideo sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Uwch Gomisiynydd Prydain yn Cenia, Nic Hailey, yn cadarnhau fod o leiaf un dinesydd Prydeinig wedi’i ladd yn yr ymosodiad.
“Mae ein tîm yn wedi bod yn gweithio trwy’r nos er mwyn cefnogi’r awdurdodau yn Cenia a chynnig pob cymorth i ddinasyddion Prydeinig sydd wedi’u dal yng nghanol y digwyddiadau,” meddai.
“Mae’n ddrwg gen i orfod cadarnhau fod o leia’ un dinesydd Prydeinig wedi cael ei ladd yn yr ymosodiad.”