Mae gweddw’r cyn Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn cyflwyno her gyfreithiol i’r archwiliad sy’n ceisio penderfynu sut y cafodd y gwleidydd ei drin cyn cael ei ddiswyddo ddiwedd 2017.

Fe fydd y gwrandawiad cyntaf yn digwydd fory (dydd Iau, Ionawr 17), pryd y bydd cyfreithwyr ar ran Bernie Sargeant yn cyflwyno her i gyfreithlonrwydd yr archwiliad annibynnol sydd wedi’i sefydlu i edrych ar ran cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn y stori.

Fe gafodd Carl Sargeant ei wahardd o’r Blaid Lafur gan Carwyn Jones ar Dachwedd 3, 2017. Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff yn crogi yn ei gartref yn Cei Conna ar Dachwedd 7.

Mae ei wraig yn herio penderfyniadau Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, yn ymwneud â phrotocol yr archwiliad cyn iddo gael ei wahardd o’r blaid. Yn ol Bernie Sargeant, roedd penderfyniadau gan y ddau yma wedi eu gwneud heb ymgynghori’n briodol â hi.

Ar hyn o bryd mae’r archwiliad, o dan arweiniad Paul Bowen QC, wedi cael ei ohirio.

Yr heriau

Mae Bernie Sargeant yn herio penderfyniad yr archwiliad i:

• atal cyfreithwyr y teulu rhag gallu holi tystion;

• caniatáu i’r ymchwilydd annibynnol atal teulu rhag mynychu gwrandawiadau;

• atal tystiolaeth lafar rhag cael ei chlywed yn gyhoeddus;

• atal yr ymchwilydd annibynnol rhag gallu gorchymyn tystion i roi tystiolaeth.

Her arall 

Fe fydd Bernie Sargeant hefyd yn herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddanfon neges at holl weision sifil Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin y llynedd yn gofyn iddyn nhw roi gwybod os oedd ganddyn nhw dystiolaeth yn ymwneud â’r archwiliad.

Nid at y Llywodraeth y dylai’r dystiolaeth yma fod wedi mynd, yn ôl Bernie Sargeant, ond at yr archwilydd, Paul Bowen.

Bydd y gwrandawiad gerbron yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave a Mr Justice Swift yn Llys Gweinyddol Cymru, Caerdydd.