Mae dyn sy’n cael ei amau o gario cyllell i mewn i orsaf drenau yn Llundain ac o gynllwynio i ladd, wedi’i arestio gan heddlu yn defnyddio gwn Taser.

Fe gafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) a’r Met eu galw i orsaf Tulse Hill toc wedi 6.30yh ddoe (dydd Llun, Ionawr 14) yn dilyn adroddiadau fod dyn yn cario cyllell.

Fe gafodd ei arestio ar y platfform wedi i wn Taser gael ei ddefnyddio i’w lonyddu.

Mae’r heddlu’n cadarnhau na chafodd neb ei anafu gyda’r gyllell, ac nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel un brawychol.