Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dal i geisio sefydlogi’r tirlithriad a fu yng Nghwmduad, Sir Gaerfyrddin, ym mis Hydref y llynedd.
Mae rhan o’r A484 rhwng Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn wedi bod ynghau ers y digwyddiad adeg Storm Callum ar Hydref 13, pan gafodd Corey Thomas Sharpling, 21, ei ladd.
Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, fe ddechreuodd y gwaith clirio cyn y Nadolig pan gafodd parth diogel ei greu er mwyn cyrraedd lori a ysgubwyd i’r afon.
Cafodd y lori ei symud yn dilyn ymdrechion ddoe (dydd Llun, Ionawr 14), a’r cam nesaf fydd sefydlogi’r bancyn gerllaw, sy’n golygu gwaith geodechnegol a draenio cymhleth, meddai’r cyngor sir ymhellach.
Does dim cadarnhad ynglŷn â phryd mae’r cyngor yn bwriadu ailagor y ffordd, ac maen nhw’n ychwanegu y bydd angen cynnal asesiad arni cyn bod modd rhoi unrhyw amcan.
“Gweithio mor gyflym â phosib”
“Rydym ni bellach yn gwneud cynnydd o ran gwaith a phroses gyfreithiol hynod gymhleth rhwng y Cyngor, asiantaethau partner a’r tirfeddiannwr,” meddai Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
“Rydym ni’n llwyr ymwybodol o effaith hyn ar y gymuned, ac rydym ni am atgyfnerthu’r ffaith i ni fynd ati’n syth ar ôl y tirlithriad i gynnal archwiliadau safle ac i wneud gwaith clirio ac adeiladu, er mwyn gofalu bod yr ardal yn ddiogel.
“Rydym ni’n gweithio mor gyflym â phosib er mwyn ailagor yr heol mor gyflym â phosib, a hoffem ddiolch i’r bobl mae hyn wedi effeithio arnyn nhw am eu hamynedd.”