Mae dwyn wedi’i arestio wedi i ddynes gael ei thrywanu i farwolaeth yn ystod oriau mân Dydd Calan.

De ddaeth yr heddlu o hyd i’r wraig mewn ty yn Camberwell, de Llundain, am 4.20yb dydd Mawrth (Ionawr 1).

Bu farw’r ddynes am 4.50yb. Roedd hi yn ei 30au cynnar.

Fe gafodd dyn 34 ei arestio y fan a’r lle ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn ne Llundain.

Mae adran lofruddiaeth Heddlu’r Met yn ymchwilio i’r achos.