Mae’r British Transport Police yn dwued fod dyn a dynes, y ddau yn eu 50au, wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad yn uj o orsafoedd Manceinion.

Mae’r ddynes wedi diodde’ anafiadau i’w hwyneb a’i stumog, ac mae’r dyn wedi’i anafu yn ei stumog. Mae plismon hefyd wedi’i drywanu yn ei stumog.

Mae anafiadau pob un ohonyn nhw’n cael eu disgrifio yn ddifrifol, ond nid yn bygwth eu bywydau.

Mae un dyn wedi’i arestio ar ambeuaeth o geisio llofruddio wedi ymosodiad yng ngorsaf Victoria, Manceinion, nos Calan.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a heddlu gwrth-frawychiaeth sy’n arwain yr achos “â meddwl agored”.