Mae dau fachgen yn eu harddegau.wwdi cael eu hanafu mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn yr un clwb nos yn Essex.

Maenun ohonyn nhw mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ei stumog ar lawr dawnsio Club 195 yn Epping tua 1.20yb, Ionawr 1.

Fe gafodd bachgen arall ei daro’n anymwybodol a chollodd ei ddannedd ar ôl ymosodiad yn y stryd  y tu allan i Club 195 yn ystod oriau mân Dydd Calan.

Fe ddioddefodd ymosodiad ar y stryd yn Epping tua 3.30yb, meddai Heddlu Essex.