Mae ymladdwyr tân yn Llydaw wedi gorfod achub wyth o bobol o dop olwyn ffair – wedi iddyn nhw fod yn sownd yn uchel yn yr awyr am wyth awr ar nos Calan.

Fe fu’r tri oedolyn a phum person yn eu harddegau yn sownd 170 troedfedd yn yr awyr yn ninas Rennes neithiwr (nos Lun, Rhagfy 31).

Fe dorrodd reid ‘Y Pendil’ i lawr tua 8.30yh, yng nghanol swn mawr a sbarcs, ac fe adawyd un rhan o’r reid ffair yn uchel yn yr awyr, yn methu symud.

Fe gafodd hofrennydd ei defnyddio i gyrraedd y grwp, cyn eu bod nhw’n gwisgo harneisiau arbennig ac yn cael eu cario ar y winsh i ddiogelwch.