Mae beth bynnag bedwar o bobol wedi’u hanafu wedi i ddyn yrru ei gerbyd yn fwriadol i ganol torf o bobol yn yr Almaen.
Mae heddlu yn Muenster yn dweud eu bod yn trin y digwyddiad fel “ymosoodiad bwriadol ar dramorwyr”.
Fe yrrodd y gwr 50 oed ei gar Mercedes i mewn i griw o bobol yng nghanol tref Bottrop, a hynny yn ystod munudau cyntaf y Flwyddyn Newydd.
Fe fethodd, ddwywaith wedyn, â gyrru i ganol mwy o bobol.
Ymhlith y bobol sydd wedi’u hanafu gan yr ymosodiad, y mae dinasyddion Syria ac Afghanistan.
Fe ddihangodd y gyrrwr i ddinas Essen, cyn cael ei rwystro a’i arestio gan yr heddlu.
Police said there are indications that the suspect is mentally ill.