Mae gweithwyr achub wedi tynnu babi yn ddiogel allan o rwbel adeilad yn Rwsia, er bod saith o bobol wedi cael eu lladd pan ddymchwelodd y lle.

Fe ddaeth y newydd am y bachgen bach 35 awr wedi i’r adeilad deg llawr yn ninas Magnitogorsk gwympo o ganlyniad i ffrwydrad nwy.

Fe ddaeth gweithwyr o hyd i’r babi wedi iddyn nhw ei glywed hi’n llefain o ganol y rwbel.

Ond mae’r babi deg mis oed wedi’i anafu’n ddifrifol, a dyw hi ddim yn glir a fydd yn gwella’n llwyr.

Mae 37 o bobol a oedd yn byw yn yr adeilad, yn dal i fod ar goll.

Mae Magnitogorsk yn ddinas o 400,000 o bobol, tua 870 milltir i’r de-ddwyrain o Mosgow.