Ma fan wedi cael ei gyrru yn syth i ganol torf o bobol ar y stryd ym mhrifddinas Japan.

Mae wyth o bobol wedi cael eu hanafu, ax mae dyn 21 oed wedi’i arestio yn dilyn y digwyddiad nos Lun (Rhagfyr 31).

Roedd dathliadau Blwyddyn Newydd yn eu hanterth pan honnir i’r dyn o’r enw Kazuhiro Kusakabe yrru ei gerbyd yn fwriadol tuag at bobol, gyda’r bwriad o’u lladd.

Mae lluniau sydd wedi’u darlledu at NHK TV yn dangos fan fechan gyda’i thrwyn yn dolciau i gyd, a swyddogion heddlu yn rhuthro i’r safle.