Mae dyn wedi marw wedi i dŷ ddymchwel ar ôl ffrwydrad yn ystod oriau mân dydd Iau (Rhagfyr 27).
Fe ddigwyddodd yn Andover, Hampshire, tua 2yb.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire yn dweud eu bod yn dal i chwilio’r safle.
Mae nifer o dai cyfagos wedi cael eu gwagio hefyd, rhag ofn.