Mae Michael Gove, y gweinidog yng nghabinet Theresa May, wedi talu teyrnged i’r gweithwyr NHS a fu’n trin ei fab yn dilyn damwain ar noswyl Nadolig.

Fe gafodd Will Gove, 14, ei anafu’n ddrwg pan aeth ar ei ben trwy ddrysau gwydr mawr yng nghartre’r teulu yn Llundain. Roedd wedi baglu dros y goeden Nadolig.

Mae gwraig Michael Gove, y colofnydd papur newydd Sarah Vine, hefyd wedi disgrifio’r ffordd y cafodd y mab ei ruthro i’r ysbyty. Fe dreuliodd saith awr yn cael pwytho’i ysgwydd a’i fraich.