Mae plismon a gofalwr eglwys wedi’u hanafu mewn ffrwydrad y tu allan i eglwys yng nghanol dinas Athen.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau i’r ffrwydriad ddigwydd tua 7yb y tu allan i eglwys orthodocs yrAgios Dionysios yn ardal gyfoethog Kolonaki y brifddinas, cyn y gwasanaeth blynyddol i nodi Dydd San Steffan.

Mae’r ddau sydd wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.