Mae dau fachgen 15 oed wedi ymddangoa gerbron llys wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd Llundain.

Fe ddaethpwyd o hyd i William Mendes, 25, gwr o Bortwgal a oedd hefyd yn baffiwr brwd, wedi’i drywanu yn Tottenham tua 1.20yb ddydd Sadwrn, Rhagfyr 22.

Roedd wedi bod yn byw yng ngwledydd Prydain ers 2015, ac er iddo gael ei gludo i ysbyty, fe fu farw yno o fewn yr awr.

Fe gafodd y ddau fachgen – na ellir eu henwi oherwydd eu hoedran – eu cyhuddo ar noswyl Nadolig (Rhagfyr 24).

Mae’r ddau wedi ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Highbury Corner heddiw (Rhagfyr 26).

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o ddwyn oddi ar William Mendes, ac o ddwyn oddi ar ddyn arall, ynghyd â thrïo dwyn oddi ar drydydd aelod o’r cyhoedd.

Mae’r ddau wedi’u cadw mewn canolfan ar gyfer pobol ifanc nes y mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Troseddol Canolog y ddinas ar Ragfyr 28.