Mae saith o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, yn dilyn marwolaeth dyn 30 oed yn Leeds.

Fe gafodd plismyn Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.eu galw yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd yn ardal Beeston y ddinas tua 3.14yb ar Wyl San Steffan (Rhagfyr 26).

De ddaethon nhw o hyd i ddyn wedi’i anafu’n ddifrifol. Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno yn nes ymlaen fore Mercher.

Mae pedwar dyn a thair dynea wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, ac maen nhw wedi’u cadw yn y ddalfa.