Mae gwraig.41 oed wedi ymddangos gerbron llys arbennig yn yr Wyddgrug ar Wyl San Steffan, wedi’i chyhuddo o drywanu.

Mae Louise Dawn Anderson wedi’i chadw yn y ddalfa ar ôl i’r hwrandawiad arbennig glywed iddi drywanu dynes arall – Lisa Marie Clutton – yn ei choes yn Stryt y Brenin, Wrecsam ar noswyl Nadolig.

Mae wedi’i chyhuddo o anafu yn anghyfreithlon gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae disgwyl i Louise Anderson ymddangos eto, yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ar Ionaer 25.