Mae’r weithwraig ekusen, Nazanin Zaghari-Ratcliffe, wedi cyrraedd ei phen-blwydd yn 40 tra yn y carchar yn Iran.

Mae Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, wedi dweud ei fod yn gobeithio mai dyma’r pen-blwydd olaf y bydd hi’n ei dreulio dan glo.

Fe gafodd y wraig a’r fam o dras Brydeinig/Iranaidd ei harestio ym maes awyr Imam Khomeini yn Tehran ym mis Ebrill 2016.

Fe gafodd ei dedfrydu i dreulio pum mlynedd yng ngharchar, wedi ei chael yn euog o ysbïo. Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad yn llwyr.

Mae Jeremy Hunt yn dweud ei bod wedi dioddef “anghyfiawnder mawr”.

Tra bod ei merch bedair oed yn byw gyda theulu yn Iran, mae ei gwr, Richard Ratcliffe yn ymgyrchu’n ddiflino tros gadw ei hachos yn llygad y cyhoedd.