Mae’r Kremlin yn dweud fod byddin Rwsia wedi profi cerbyd rhyfel newydd sy’n cael ei ddisgrifio fel un ‘hypersonig’.

Mewn datganiad, mae’n dweud fod arlywydd y wlad, Vladimir Putin,.wedi goruchwylio lansiad y cerbyd Avangard heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 26) o safle Dombarovskiy.

Fe lwyddodd, yn ôl y Kremlin eto, i daro targed yn Kamchatka, 3,700 milltir i ffwrdd.

Vladimir Putin sydd wedi enwi’r Avangard, un o arfau niwclear newydd y bydd yn eu cyflwyno’n swyddogol ym mis Mawrth.

Mae’n honni na all neb eu synhwyro nhw’n dod, ac felly all neb eu saethu nhw i lawr.

Mae’r Avangard yn gallu hedfan ar gyflymser sydd 20 gwaith yn gyflymach na swn.