Mae cannoedd o bobol wedi gwneud honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn plismyn yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

Mae dros hanner y lluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn bron i 450 o gwynion gan staff ac aelodau o’r cyhoedd – a’r cwynion hynny’n cynnwys rhai yn erbyn prif dditectifs ac arolygwyr, yn ôl ymchwiliad gan bapur newydd The Guardian.

Ychydig iawn o’r achosion a arweiniodd at neb yn cael ei ddiswyddo, meddai’r papur, gyda nifer o’r cwynion yn arwaon at ymddiswyddiad neu ymddeoliad.

Mae 28 allan o’r 43 llu yng Nghymru a Lloegr wedi cyflwyno ystadegau mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth The Guardian.

Mae rhai – yn cynnwys y Met yn Llundain – yn dweud nad oedd bi’n bosib iddyn nhw gyflwyno ei gwybodaeth erbyn y dedlein.

“Where pfrom the service.”