Mae un o gyfreithwyr hawliau dynol amlycaf Tsieina yn mynd ar brawf heddiw – ac mae tua dau ddwsin o heddlu cudd ar ddyletswydd y tu allan i’r llys, ac o leiaf un cefnogwr wedi’i arestio.

Mae gohebwyr, diplomyddion tramor a chefnogwyr wwdi carl eu gwahardd rhag mynd yn agos i’r llys yn Tianjin lle cynhelir achos Wang Quanzhang.

Mae ei wraig, Li Wenzu, hefyd wedi’i gwahardd rhag mynd i’r llys, wedi i swyddogion diogelwch rwystro’r ffordd allan o’i chartref.

Mae Wang Quanzhang yn u blith 200 o gyfreithwyr ac ymgyrchwyr sydd wedi bod yn y ddalfa ers 2015.

Mae’n aelod o gwmni cyfreithiol Fengrui, sy’n arbenigo mewn ymladd achosion hawliau dynol, ac mae wedi’i gyhuddo o amharchu’r gyfraith.

Ers ei arestio dair blynedd yn ôl, mae wedi’i gadw yn y ddalfa heb gysylltiad gyda’i gyfreithiwr na’i deulu.