Mae daeargryn, wedi ysgwyd dwyrain Sisili ar Wyl San Steffan, gan anafu deg o bobol a pheri i bentrefwyr ddianc am eu bywydau rhag ofn y bydd y llosgfynydd Etna yn ffrwydro.
Mae awdurdodau’r Eidal yn dweud fod y daeargryn am 3.19yb heddiw yn rhan o gyfres o tua mil o gryniadau, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n amhosib i’w synhwyro.
Ond mae yna gysylltiad â Mynydd Etna a’r ffaith ei fod yntau’n ystwyrian ye wythnos hon.
Roedd y daesrgryn yn mesur 4.8 ar y raddfa, ac fe achosodd ddifrod i rai tai gwledig a gwneud i gerflun mewn eglwys yn nhref Santa Venerina gwympo. Fe achosodd graciau mewn ffordd hefyd.
Mae adroddiadau fod dyn 80 oed wedi’i achub o rwbel ei gartref.