Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio yn Swydd Caint ar amheuaeth o lofruddio dwy ddynes.

Cafwyd hyd i’r ddwy yn Hadlow ger Tonbridge toc ar ôl 7.40 fore heddiw ar ôl iddyn nhw gael anafiadau difrifol (dydd Sadwrn, Medi 29). Bu’r ddwy farw yn y fan a’r lle.

Roedd un o’r ddwy yn ei 50au a’r llall yn ei 70au.

Mae dyn yn ei 70au yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae lle i gredu bod y pedwar yn adnabod ei gilydd, yn ôl yr heddlu.