Mae Coed Cadw wedi mynegi pryder am gynlluniau i godi parc gwyliau ar goetir ger Bangor sydd â statws arbennig.

Gallai parc gwyliau â 40 o gabanau gael ei godi ar safle 5.6 erw hynafol Coed Wern yng Nglasinfryn, ond fe fyddai angen tynnu nifer o goed i lawr i greu digon o le ar gyfer y datblygiad.

Mae’r coetir yno ers bron i 400 o flynyddoedd, yn ôl arbenigwyr, ac mae tiroedd o’r fath yn cyfateb i 2% yn unig o arwynebedd gwledydd Prydain. Ond maen nhw hefyd yn gartref i fywyd gwyllt prin.

Mae gan Goed Wern statws Safleoedd Coetir Hynafol a Adferwyd, sy’n golygu bod coed hynafol a fyddai wedi bod ar y safle’n wreiddiol wedi cael eu plannu yno mewn ymgais i adfer y safle fel ag yr oedd yn y gorffennol.

Mae’r safle’n gartref i grehyrod a gweilch gleision, yn ogystal â blodau gwyllt.

Mae Polisi Cynllunio Cymru’n nodi y dylid gwarchod y fath safleoedd rhag datblygiadau a allai eu dinistrio, ond mae’r datblygwyr yn parhau â’r cynllun er gwaethaf hyn.

‘Hynod bryderus’

Wrth ymateb i’r cynlluniau, dywedodd Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchu Coed Cadw, Rory Francis, “Rydym yn hynod bryderus am y cynlluniau hyn. Nid oes modd ail-greu coetir hynafol ac mae’n cael ei ddiogelu gan Bolisi Cynllunio Cymru.

“Felly tydi o ddim yn lleoliad derbyniol ar gyfer datblygiad parc gwyliau.

“Rydym yn benderfynol o wneud safiad i warchod y coetir hynafol hwn ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd helpu.

“Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â’i fryd ar amddiffyn y cynefin cyfoethog hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy fynd at ein gwefan ni woodlandtrust.org.uk/cymru.”

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar Hydref 17.