Mae cyn-bennaeth ariannol Cyngor Kensington a Chelsea wedi cyfaddef dwyn tua £60,000 o gronfa ar gyfer dioddefwyr Tân Tŵr Grenfell.

Roedd Jenny McDonagh o Abbey Wood yn ne-ddwyrain Llundain wedi cymryd £62,000 o gronfa dioddefwyr trwy ddefnyddio cardiau credyd wedi’u dwyn.

Fe ddefnyddiodd yr arian ar gyfer teithiau i Dubai a Los Angeles, ynghyd â’i wario ar giniawau moethus a gamblo ar-lein.

Y cyhuddiadau

Fe gafodd y ddynes 39 oed ei harestio ddechrau’r mis, gan ddefnyddio dau gerdyn credyd a oedd wedi’u dwyn.

Fe blediodd Jenny McDonagh yn euog i ddau gyhuddiad o dwyll yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau (Awst 30). Roedd hefyd wedi’i chyhuddo o ddwyn a cheisio celu nwyddau troseddol.

Daeth i’r amlwg yn y llys ei bod hefyd yn cael ei hymchwilio ar amheuaeth o dwyll yn erbyn ei chyn-gyflogwyr, Ymddiriedolaeth GIG Medway yn Swydd Gaint, ac Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain.

Yr achos yn parhau

Yn dilyn y gwrandawiad ddoe, mae Jenny McDonagh wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Islington ar ddyddiad sydd i’w gadarnhau.

Mae wedi derbyn tag electronig, ac mae’r barnwr wedi’i gorchymyn iddi ymddiswyddo o’i swydd fel swyddog cyllid gydag elusen iechyd meddwl.

Mae hi hefyd wedi cael ei gwahardd rhag teithio dramor.