Mae gofodwyr wedi bod yn ceisio datrys gollyngiad aer yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol, ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i dwll bychan ar yr ochr lle mae’r Rwsiaid yn byw.

Mae swyddogion o NASA a Rwsia yn pwysleisio bod y chwe gofodwr sydd yn yr orsaf yn ddiogel, a’u bod nhw’n cydweithio â’i gilydd er mwyn datrys y broblem.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y twll bychan wedi cael ei ddarganfod nos Fercher (Awst 29), a bod lle i gredu ei fod wedi cael ei achosi gan gawod feteorolegol fechan.

Mae’r orsaf, sydd 250 milltir o wyneb y ddaear, yn gartref i dri o’r Unol Daleithiau, dau o Rwsia ac un o’r Almaen.