Fe fydd ditectifs sy’n ymchwilio i achos diflaniad Madeleine McCann yn derbyn rhagor o arian i barhau â’u hymdrechion.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd cais gan Heddlu’r Met am ragor o arian i’r ymgyrch yn derbyn sêl bendith.

Fe ddiflannodd Madeleine McCann o fflat gwyliau yn Portiwgal yn 2007, a hyd yma mae dros £11m wedi’i wario ar yr ymgyrch i ddod o hyd iddi.

Mae rhieni’r plentyn, Kate a Gerry McCann, wedi dweud na fyddan nhw byth yn rhoi’r gorau i chwilio amdani, ac maen nhw’n “ddiolchgar iawn” am yr arian ychwanegol.

“Maen nhw wedi eu calonogi gan y ffaith bod Heddlu’r Met yn credu bod gwaith i’w wneud o hyd,” meddai llefarydd ar ran y teulu.

Pob chwe mis mae’r Llywodraeth yn rhoi arian i’r ymgyrch, ac mae £154,000 wedi’i fuddsoddi ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2017 a diwedd y mis hwn.