Fe fydd cyn-weithiwr i gwmni dadansoddi data yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol yn ddiweddarach heddiw.

Roedd Christopher Wylie yn Gyfarwyddwr Ymchwil gyda chwmni Cambridge Analytica am gyfnod, a bellach mae wedi datgelu manylion am weithredoedd y cwmni.

Yn ôl y cyn-weithiwr, fe gasglodd Cambridge Analytica ddata 50 miliwn o bobol trwy eu cyfrifon Facebook, a chafod hyn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar bleidleiswyr yn etholiad arlywyddol 2016.

Mae Christopher Wylie hefyd wedi codi amheuon am yr ymgyrch tros adael Ewrop yn ystod y refferendwm a gynhaliwyd yng ngwledydd Prydain ddwy flynedd yn ôl.

Bydd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon am ei swydd gyda Cambridge Analytica.