Cafodd mwy na 5,000 o blant eu gorfodi i dynnu eu dillad wrth i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr eu harchwilio rhwng 2013 a 2015, yn ôl ffigurau sydd newydd eu gyhoeddi.

Roedd mwy na 4,000 o’r achosion yn ardal Heddlu Llundain.

Prif ddiben y math hwn o archwilio yw darganfod cyffuriau neu arfau.

Ond cafodd 113,000 o archwiliadau eu cynnal oedd yn mynd y tu hwnt i ganllawiau, wrth i bobol orfod tynnu mwy na’u dillad allanol.

Dim ond 13 allan o 45 o heddluoedd wnaeth ymateb i gais gan raglen ‘5 live Investigates’.

Mae rheolau pendant ynghylch sut a phwy ddylai gynnal archwiliadau lle mae gofyn i unigolion dynnu eu dillad:

  • Rhaid i’r sawl sy’n cynnal yr archwiliad fod o’r un rhyw â’r unigolyn sy’n cael ei chwilio
  • Rhaid bod dau berson ar wahân i’r person sy’n cael ei archwilio fod yn bresennol yn ystod y broses
  • Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau cydweithrediad y sawl sy’n cael ei archwilio, ac i leihau embaras
  • Ni ddylid cynnal yr archwiliad mewn ardal lle mae modd i unigolion eraill wylio’r broses
  • Ni ddylid gorfodi unigolion i dynnu eu dillad i gyd ar yr un pryd