Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, Damian Green
Fe fydd cynlluniau i ad-drefnu budd-daliadau anabledd yn cael eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, Damian Green ddydd Llun.
Y gobaith yw sicrhau bod mwy o bobol yn gallu dychwelyd i’r gwaith ar ôl newid natur y profion Gallu i Weithio (WCA).
Dywed Llywodraeth Prydain eu bod nhw am sicrhau mwy o gefnogaeth i bobol a chanddyn nhw anableddau wrth iddyn nhw chwilio am swyddi.
Mae elusennau sy’n cefnogi pobol a chanddyn nhw anableddau wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud bod “gwendidau sylfaenol” yn y drefn bresennol.
Ond mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio bod rhaid parhau i gefnogi pobol nad ydyn nhw’n gallu gweithio.
Mae pryderon wedi cael eu mynegi ynghylch y Lwfans Gwaith a Chymorth (ESA), a bod y bobol sy’n derbyn y lwfans yn cael ychydig iawn o gefnogaeth gan y Ganolfan Waith.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Damian Green ddweud na fydd rhaid i bobol sydd â salwch neu gyflwr difrifol gael ail-asesiad cyn derbyn budd-daliadau.
Dywedodd Green: “Ry’n ni’n gwybod fod y math cywir o waith yn dda ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond mae angen system iechyd a lles fwy pragmataidd sy’n adlewyrchu hyn – un sy’n cynnig gwaith i’r rhai sy’n medru gweithio, cymorth i’r rhai a allai weithio a gofal i’r rhai sy’n methu gweithio.
“Ni ddylai anabledd neu gyflwr iechyd reoli’r llwybr y gall person ei gymryd mewn bywyd. Does neb am gael system lle mae pobol yn cael eu diystyru a’u gorfodi i dreulio cyfnodau hir o amser ar fudd-daliadau pan fydden nhw, gyda’r gefnogaeth gywir mewn gwirionedd, yn gallu dychwelyd i’r gwaith.”
Diddymu profion
Yn ôl llefarydd Gwaith a Phensiynau’r Blaid Lafur, Debbie Abrahams, dylid diddymu’r profion yn gyfangwbl.
Galwodd ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i “gymryd cyfrifoldeb” am wendidau’r drefn bresennol, ac i beidio awgrymu bod y profion wedi bod yn llwyddiannus.
Dywedodd mai “targedu’r bobol fwyaf diniwed” yw nod Llywodraeth Prydain “i dalu am eu cynlluniau llymder”.