Mae daeargryn yn mesur 6.6 ar raddfa Richter wedi taro rhannau o ganolbarth a de’r Eidal.

Dyma’r ardal a gafodd ei heffeithio gan ddaeargryn arall ym mis Awst ac ôl-gryniadau’r wythnos diwethaf.

Mae adeiladau wedi cael eu dymchwel, a miloedd o bobol bellach yn ddigartref.

Dywedodd yr awdurdodau nad ydyn nhw’n ymwybodol o unrhyw farwolaethau, ond bod rhai wedi cael eu hanafu yn dilyn y daeargryn am 7.40 y bore.

Teimlodd nifer o ddinasoedd effeithiau’r daeargryn, ac roedd adroddiadau bod Awstria hefyd wedi teimlo cryniadau.