Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Y Rhyl nos Iau.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, does yna’r un o’r tri’n byw yng ngogledd Cymru.

Cafodd Mark Roy Mason, 48, ei drywanu mewn maes parcio ar Ffordd Marsh y dref am oddutu 7.24 nos Iau.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r digwyddiad.

Y gred yw bod fan Renault Kangoo wen wedi mynd i mewn i’r maes parcio ac yna bod cerbyd 4×4 du wedi’i dilyn.

Cafodd troseddwyr eu gweld yn dod allan o’r cerbyn du ac ymosod ar deithiwr yn y Renault cyn gyrru i ffwrdd.