Daeth cadarnhad gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mai tân damweiniol oedd hwnnw sydd wedi difrodi talp helaeth o gampws Tycoch, Coleg Gwyr, yn Abertawe.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar drwsio ac adfer y mannau sydd wedi’u heffeithio gan y fflamau ar ail a thrydydd llawr yr adeilad.
Meddai datganiad y Gwasanaeth Tân ac Achub: “Mae’r asesiad cychwynnol yn dangos fod y tân wedi cynnau yn y llyfrgell ar lawr C, gan greu difrod sylweddol. Er hynny, mae’r peiriannwyr strwythurol wedi nodi fod yr adeilad yn parhau’n gadarn.
“Am 8 o’r gloch fore Sadwrn, fe ddaeth Tim Ymateb i Argyfwng y coleg i mewn i gyfarfod â’r contractwyr er mwyn dechrau clirio lloriau A, B, a D, yn ogystal â’r grisiau a’r coridorau i gyd. Mae’r tim Technoleg Gwybodaeth hefyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau y bydd y gwasanaethau rheiny’n gweithio cyn gynted â phosib.”