Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â diflaniad babi yn 2004.

Cafodd ei arestio yn Swydd Hertford ddydd Gwener ar amheuaeth o atal claddu’r babi ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn Llundain.

Ymddangosodd dynes 31 oed a gafodd ei harestio mewn perthynas â’r achos gerbron ynadon yn Kingston ym mis Gorffennaf.

Mae dau o bobol eraill – dynes 50 oed a dyn 52 oed – ar fechnïaeth yr heddlu o hyd.