Mae llys ym Mhacistan wedi gohirio achos dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth “anrhydeddus” dynes.

Mae gan yr heddlu tan Fedi 23 i gyflwyno tystiolaeth yn erbyn tad a chyn-ŵr Samia Shahid, 28, ar ôl iddi gael ei thagu.

Ymddangosodd y ddau ddyn gerbron llys yn Jhelum y bore ma.

Mae’r heddlu’n honni bod ei thad, Muhammad Shahid wedi gwylio tra bod Muhammad Shakeel wedi ei threisio hi cyn i’r ddau ei lladd.

Roedd Samia o Bradford yn ymweld â’i theulu ym mis Gorffennaf pan gafodd hi ei lladd.

Cafodd hi ei chladdu yn y Punjab ar ôl i’r heddlu gymryd ei bod hi wedi marw’n naturiol.

Ond cafodd ymchwiliad ei gynnal ar ôl i’w gŵr Syed Mukhtar Kazam gyhuddo ei theulu o’i llofruddio ar sail ei hysgariad yn 2014.