Fydd trenau ddim yn teithio rhwng Caerdydd a Bryste dros y penwythnos oherwydd gwaith cynnal a chadw’n ymwneud â thrydaneiddio’r rheilffyrdd.

Ni fydd trenau uniongyrchol ychwaith rhwng Paddington ac Abertawe, a’r holl wasanaethau’n dod i ben yn Bristol Parkway.

Fe fydd bysus yn cludo teithwyr rhwng Bryste a Chaerdydd, a Chaerdydd ac Abertawe.

Mae teithwyr wedi cael rhybudd y gallai teithiau gymryd hyd at 70 munud yn fwy nag arfer.