Mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i nodi canmlwyddiant geni’r awdur i blant, Roald Dahl yn Llandaf.
Prin yw’r manylion sydd wedi cael eu cyhoeddi am y digwyddiadau, ond fe fydd parti pyjamas ym Mharc Bute am 2 o’r gloch heddiw, ynghyd â phicnic wedi’i ysbrydoli gan rai o’i gymeriadau a’i straeon.
Mae ‘Dinas yr Annisgwyl’ yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales, ac yn cael ei gyfarwyddo gan Nigel Jamieson, fu’n gweithio ar seremonïau agoriadol Gemau’r Gymanwlad ym Manceinion a’r Gemau Olympaidd yn Sydney.
Dywedodd y cynghorydd Peter Bradbury, sy’n gyfrifol am Ddatblygu Cymunedol ar Gyngor Caerdydd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Ddinas yr Annisgwyl y penwythnos hwn ac mae’n addo bod yn lot fawr o hwyl i’r teulu oll.
“Gellir dadlau mai Roald Dahl yw’r person enwocaf o Gaerdydd ac yn y canmlwyddiant hwn, mae’n wych fod dinas ei eni yn gallu dathlu ei athrylith yn y modd yma.”
Yn ôl y trefnwyr, “bydd realiti yn cael ei droi â’i ben i waered yn y brifddinas” a “deddfau ffiseg, rhesymeg a’r rhagweladwy yn ildio i’r lledrithiol a’r swreal fel petai Roald Dahl ei hun wrth y llyw”.
Bydd cast o fwy na 10,000 o berfformwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas, sy’n cynnwys darlleniadau o rai o weithiau mwyaf adnabyddus Dahl.
Bydd yr holl ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar y strydoedd, yn siopau ac adeiladau’r brifddinas.
Mae’r holl wybodaeth am y digwyddiadau ar y wefan.